>

Mae Cyfleuster Cynhyrchu Newydd yn Tramshed Tech yn agor cyn Gemau Paralympaidd 2024

Mae Cyfleuster Cynhyrchu Newydd yn Tramshed Tech yn agor cyn Gemau Paralympaidd 2024

Wedi'i leoli yn Tramshed Tech, mae'r cyfleuster yn cynnig lleoliad cynhyrchu amlbwrpas, o'r radd flaenaf sy'n cynnwys popeth sydd ei angen i ddarparu cynyrchiadau o bell byd-eang ar raddfa fawr, a fydd yn dod â chyfleoedd newydd a gwell i'r rhanbarth.

Ystafell gyda goleuadau gwyrdd a ramp.

Mae Cymru Greadigol, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), Whisper Cymru, Tramshed Tech a Channel 4 yn cyhoeddi heddiw agoriad swyddogol cyfleuster cynhyrchu o bell sy’n gwbl hygyrch ger Caerdydd Canolog, sef ‘Cymru Broadcast Centre’.

Wedi’i leoli yn Tramshed Tech, mae’r ganolfan yn cynnig cyfleuster cynhyrchu amlbwrpas, o’r radd flaenaf sy’n cynnwys popeth sydd ei angen i ddarparu cynyrchiadau o bell byd-eang ar raddfa fawr, a fydd yn dod â chyfleoedd newydd a chynyddol i’r rhanbarth.

Wedi’i dylunio a’i hadeiladu cyn cyflwyno Gemau Paralympidd Paris 2024 ar gyfer Channel 4, sy’n dechrau ar 28 Awst, mae’r Ganolfan hefyd wedi’i dylunio i fod yn un o’r hybiau cynhyrchu o bell mwyaf hygyrch yn Ewrop.

O agwedd dechnegol, mae adnoddau o ansawdd uchel yn cynnwys ystafell offer ganolog, 2 ystafell reoli cynhyrchu ac ystafelloedd rheoli sain, prif ystafell reoli, sawl ystafell olygu, 2 swyddfa gynhyrchu a multiplecs. Mae’r Ganolfan wedi’i rhestru i helpu i ddarparu darlledu o ansawdd uchel, cynhyrchu effeithlon a throsglwyddo cynnwys yn ddi-dor. Yn ogystal, bydd cysylltedd amrywiol yn cael ei ddwyn i’r Ganolfan gan arweinwyr y diwydiant BMC dros Open Reach ac Ogi fibre. Mae Timeline TV wedi helpu i ddylunio a chyfarparu’r Ganolfan a bydd yn gweithredu’r gofod ar ôl diwedd y Gemau Paralympidd.

Yn ogystal â chreu cyfleuster cynhyrchu o bell hygyrch, fe wnaeth y consortiwm cyfryngau Media Cymru a Channel 4 gyd-ariannu ymchwil a datblygu ynghylch hygyrchedd mewn cynhyrchu byw ar y cyd â The Ability People. Yr uchelgais yw i’r adroddiad Ymchwil a Datblygu weithredu fel astudiaeth achos i gyfleusterau technegol eraill ei ddefnyddio fel arfer gorau ac rannu dysgu, er mwyn gwneud cynyrchiadau yn hygyrch i bawb.

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys toiled gofodau newid, llwybrau cerdded llydan, rampiau, drysau â chymorth pŵer ac arwyddion hygyrch. Mae sylw hefyd wedi’i roi i gynlluniau lliw ac arwyddion y Ganolfan drwyddi draw er mwyn sicrhau y gall ystod mor eang â phosibl o bobl ddefnyddio Canolfan Ddarlledu Cymru (Cymru Broadcast Centre).

Bydd Channel 4 a phartner cynhyrchu Whisper yn darparu mwy na 1,300 o oriau o gynnwys o’r Ganolfan, gan gynnwys 300 awr o ddarllediadau ar gyfer teledu llinol, ynghyd â 1,000 o oriau o ddarllediadau ar 16 o ffrydiau byw. Bydd dros 200 o unigolion yn gweithio dros gyfnod y Cynhyrchiad.

Bydd y Cymru Broadcast Centre yn etifeddiaeth o ddarllediadau Paralympidd Channel 4 ac mae ar fin dod â chynhyrchiant cynyddol i Gaerdydd a chyfleoedd newydd o fewn y diwydiant. Dyma’r datblygiad diweddaraf gan Whisper yn y rhanbarth, sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cynhyrchu yng Nghymru bob blwyddyn er pan sefydlwyd Whisper Cymru yn 2019.

Mae mwy o gynyrchiadau rhyngwladol eisoes ar y gweill, ac mae cyfres o gynlluniau hyfforddi ar lefel mynediad wedi’u cynllunio ar gyfer y Ganolfan.

 

Stuart Frayne, Pennaeth Gweithrediadau Technegol CBC: “Fel peiriannydd sy’n gweithio ym maes cynhyrchu byw ar draws darlledu adloniant, newyddion a chwaraeon, rwyf wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau byd-eang mawr fel Tenis ATP, F1, Moto GP, Cwpan y Byd FIFA 2022, Cwpan Ryder 2023 a Wimbledon 2024. Mae’n gyfle gwych i fod yn arwain y cyfleusterau technegol yma yn y cyfleuster cynhyrchu o bell cyntaf gwbl hygyrch yng Nghymru. Ynghyd â’n partneriaid Timeline TV, sy’n dod â chyfoeth o brofiad mewn technolegau darlledu confensiynol a’r diweddaraf mewn arloesi cynhyrchu o bell, gall dyluniad hyblyg y Ganolfan Ddarlledu hwyluso ystod eang o atebion cynhyrchu.

“Ar nodyn personol, mae’n wych cael cyfleuster fel hwn yng Nghymru, sy’n fy nwyn yn ôl adref. Rwy’n edrych ymlaen at ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent ddarlledu dechnegol a gweld sut y gall y cyfleuster adael effaith barhaol ar y gymuned ddarlledu ehangach yng Nghymru.”

 

Sunil Patel, Cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr, Whisper: “Y weledigaeth yn 2019 oedd buddsoddi’n ystyrlon yng Nghymru bob amser, gan ganolbwyntio ar bobl a chynhyrchu byd-eang. Roedd cyflogi’r dalent leol orau a meithrin y genhedlaeth nesaf ar flaen y gad yn ein cynlluniau – ac mae gennym dîm cadarn o dros 30 o bobl Caerdydd bellach, yn ogystal â’r Whisper Academy. 

“Mae dod â Gemau Paralympidd Paris 2024 C4 i Gaerdydd yn golygu y bydd yn un o’r cynyrchiadau chwaraeon mwyaf i ddod allan o’r genedl, gyda mwy i ddod yn 2025. Mae’r Cymru Broadcast Centre yn ffurfioli syniad a fydd yn effeithio ar newid cadarnhaol yng Nghymru ac yn gadael etifeddiaeth barhaol. Mae hyn yn cael ei gyfrif fel moment arbennig i Whisper.”

 

Alex Mahon, Prif Weithredwr, Channel 4: “Mae gwireddu’r Cymru Broadcast Centre gwbl hygyrch a modern yng Nghymru yn cyd-fynd ym mhob modd â’r hyn y mae Channel 4 yn sefyll drosto. Mae’n enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn tynnu ynghyd â ffocws i wneud ein diwydiant yn hygyrch i bawb. Mae’n ased gwych i Gaerdydd ac rwy’n hynod gyffrous mai ei ddarllediad cyntaf fydd darllediadau Channel 4 o Gemau Paralympidd Paris 2024.”

 

Y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy a Chadeirydd Pwyllgor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR): “Mae’r Cymru Broadcast Centre yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth, ac yn dyst i’r Diwydiannau Creadigol sy’n tyfu, un o’r sectorau blaenoriaeth allweddol yn ein Rhanbarth. Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd yn braf ag amcanion craidd CCR yn ein cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol gan gynnwys ymchwil ac arloesi, mentrau technoleg werdd, datblygu seilwaith, yn ogystal â sgiliau a hyfforddiant, fel bod ein Rhanbarth yn denu, ond hefyd yn cadw talent leol. Mae’n bleser gennyf fod ein cyllid CCR, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a Whisper Cymru, yn galluogi i rai o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd gael eu darlledu’n fyw o Gaerdydd i gynulleidfaoedd ledled y byd.  Mae’n glod llwyr i bawb sy’n gysylltiedig, ac mae’r cyffro i’w deimlo gyda’r Gemau Paralympidd ar fin cychwyn yn fuan.”

 

Gweinidog Llywodraeth Cymru dros y Diwydiannau Creadigol, Jack Sargeant: "Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru a Cymru Greadigol wedi bod yn gweithio’n agos gyda Whisper, Tramshed Tech, a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i sefydlu y Cymru Broadcast Centre. Mae’r cyfleuster o’r radd flaenaf hwn yn dod â buddsoddiad sylweddol a chyfleoedd newydd i Gaerdydd, gan gryfhau ymhellach enw da ein prifddinas fel arweinydd yn y diwydiant ffilm a theledu. Mae’r ffaith ei fod yn un o’r hybiau cynhyrchu o bell mwyaf hygyrch yn Ewrop yn sicrhau bod cyfleoedd yn y sector hwn yn agored i bawb. Mae’r buddsoddiad hwn nid yn unig yn hybu ein sector creadigol ond hefyd yn tynnu sylw at ymrwymiad Cymru i arloesi a chynhwysiant ar raddfa fyd-eang."