Hyrwyddo Entrepreneuriaeth Benywaidd gyda NatWest a Getty Images
Y mis hwn, mae NatWest, mewn partneriaeth â Getty Images, yn lansio mudiad ledled y wlad i daclo stereoteipiau o sylfaenwyr benywaidd a helpu i greu tirlun gweledol mwy amrywiol a chynhwysol sy'n dangos entrepreneuriaid fel y maent mewn gwirionedd. Yn rhan o'r ymgyrch mae ein sylfaenydd ein hunain, Louise Harris.

Ym mis Mawrth 2019, fe lansiodd Prif Swyddog Gweithredol NatWest, Alison Rose, Adolygiad Alison Rose o Entrepreneuriaeth i Fenywod i ymchwilio i'r rhystrau sy'n wynebu menywod mewn busnes. Datgelodd yr adroddiad ddau rwystr allweddol: Roedd menywod yn llawer llai tebygol na dynion o adnabod entrepreneuriaid eraill neu o gael modelau rôl benywaidd cryf.
Pwyntiodd canfyddiadau'r adroddiad at rai o'r ffyrdd y gellir gwneud entrepreneuriaeth yn fwy hygyrch i fenywod, yn arbennig trwy gynyddu cefnogaeth leol trwy nodi modelau rôl perthnasol yn ogystal â mentoriaid a rhwydweithiau hygyrch.
Ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, mae NatWest wedi partneru â Getty Images, i greu'r casgliad Female Focus #BeTheRoleModel – sef cyfres ysbrydoledig o broffiliau a delweddau sy'n helpu i hyrwyddo straeon llwyddiant dan arweiniad menywod a newid y canfyddiad gweledol o fusnesau sy'n cael eu rhedeg gan fenywod.
Ymysg y rhai sy'n ymddangos yn y casgliad mae ein sylfaenydd ein hunain, Louise Harris (Cliciwch i weld).
Wrth siarad â NatWest am y prosiect, dywedodd Louise Harris ei fod yn “golygu cymaint” iddi fod yn rhan o fenter Female Focus #BeTheRoleModel gan y banc a Getty Images “gan fy mod yn meddwl ei fod yn wych eu bod yn cymryd yr awenau i dynnu sylw at waith gwych menywod mewn busnes.
“Rydym wedi dechrau gwneud cynnydd wrth hyrwyddo entrepreneuriaid benywaidd yn y DU ond mae gennym gymaint ymhellach i fynd o hyd, felly mae pob cam bach yn helpu mwy a mwy o fenywod i lansio eu syniadau ac arloesiadau.
“Mae angen i ni wneud mwy hefyd i dynnu sylw at waith menywod mewn busnes o bob sector a diwydiant i helpu i ddenu mwy o fuddsoddiad i fusnesau a sefydlwyd gan fenywod a darparu modelau rôl amrywiol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o fenywod mewn busnes.”
A ydych chi'n adnabod entrepreneur benywaidd ysbrydoledig?
Enwebwch berchennog busnes benywaidd – neu chi eich hun, os ydych chi'n un – i helpu NatWest a Getty Images i greu llyfrgell o ddelweddau sy'n gwbl gynrychioliadol ac sy'n hyrwyddo entrepreneuriaeth benywaidd lwyddiannus.