Sut i Ddiffinio Gwerthoedd Brand
Mae datblygu gwerthoedd brand cryf yn rhan hanfodol o'ch strategaeth frandio. Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am werthoedd brand yma, fel sut i'w diffinio a pham eu bod mor bwysig i fusnes.

Mae datblygu gwerthoedd brand cryf yn rhan hanfodol o'ch strategaeth brand a gall effeithio ar lwyddiant cyffredinol eich busnes, p'un a ydych chi'n rhedeg siop gorfforol wyneb yn wyneb, gwefan e-Fasnach, neu'r ddau.
Ond cyn i ni edrych ar sut i ddiffinio gwerthoedd brand, gadewch i ni ddeall beth ydyn nhw'n union,
Beth Yw Gwerthoedd Craidd Brand?
I'w roi yn syml, gwerthoedd craidd brand yw'r gred a'r egwyddorion sylfaenol y mae sefydliad yn sefyll drostynt. Maent yn rhoi ystyr i fodolaeth y busnes a rhaid iddynt bob amser ddarlunio'r hyn sy'n wirioneddol bwysig i'r busnes, ac felly'n ffurfio rhan hanfodol o hunaniaeth nodedig y brand.
Rhaid i werthoedd craidd brand fod yn hollol onest a chael eu cymhwyso ym mhob rhan o'r strategaeth brand, o gyfathrebu â defnyddwyr i wneud penderfyniadau strategol ymhlith gweithwyr a rheolwyr.
Beth Yw Egwyddorion Arweiniol?
Mae gwerthoedd brand yn mynd law yn llaw ag egwyddorion arweiniol cwmni, sy'n nodi 'sut' y dylai'r busnes weithredu i fodloni'r gwerthoedd hyn a chyrraedd y nodau a osodwyd. Er enghraifft, os mai 'tryloywder' yw gwerth brand eich cwmni, efallai mai eich egwyddor arweiniol fyddai dangos eich strategaethBrisio yn fanwl, neu fod yn hollol onest ynghylch o ble mae eich cynnyrch yn tarddu.
Felly, nawr ein bod yn gwybod beth ydyn nhw, gadewch i ni ddarganfod sut y gallwch chi ddiffinio eich gwerthoedd brand eich hun.
Dyma ychydig o gamau i'ch helpu chi i ddiffinio eich gwerthoedd brand:
Egluro cenhadaeth eich brand
Casglu mewnwelediadau gan randdeiliaid allweddol
Ystyried syniadau (brainstormio) gyda'r tîm
Edrych ar werthoedd brandiau rydych chi'n eu caru i gael ysbrydoliaeth
1. Egluro Cenhadaeth Eich Brand
Yn gyntaf oll, mae angen i chi egluro cenhadaeth, pwrpas a gweledigaeth eich brand, gan y bydd yn rhaid i'r rhain wrth gwrs gyd-fynd â'ch gwerthoedd. Gofynnwch gwestiynau i chi'ch hun fel: Beth yw'r rheswm dros fodolaeth fy mrand? Pa werth y mae'n ei ddwyn i'n cwsmeriaid ac i'r byd? Pa faterion a phroblemau y mae'n eu datrys?
Dylech hefyd nodi beth sy'n eich gosod ar wahân ac yn eich gwneud chi'n unigryw o gymharu â chystadleuwyr yn eich diwydiant. Nodwch eich cryfderau unigryw, nodweddion, a rhinweddau personol gan y bydd y rhinweddau hyn yn siapio eich gwerthoedd brand ac yn eich gwahaniaethu oddi wrth eraill.
2. Casglu Mewnwelediadau gan Randdeiliaid Allweddol
Dylech hefyd gasglu mewnwelediadau gan randdeiliaid allweddol megis gweithwyr, cwsmeriaid presennol a'ch cynulleidfa darged, gan y bydd hyn yn eich helpu i gael persbectif llawn a sicrhau bod y gwerthoedd rydych chi'n eu dewis yn ffitio ag unigolion allweddol sy'n ymwneud â'ch busnes neu'n cael eu heffeithio ganddo.
Gallwch gynnal yr ymchwil hwn mewn sawl ffordd:
Adborth cwsmeriaid - Casglwch adborth cwsmeriaid trwy arolygon, ffurflenni adborth neu adolygiadau Google a defnyddiwch y wybodaeth hon i nodi themâu sy'n codi'n fynych. Gall adborth cwsmeriaid ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr i sut mae cwsmeriaid yn gweld y brand a pha werthoedd y maent yn eu cysylltu ag ef ac yn eu disgwyl ganddo.
Monitro ar-lein - Gallwch hefyd fonitro sylwadau a sgyrsiau ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, trafodaethau ar-lein, a fforymau i ddarganfod sut mae'r brand yn cael ei ganfod gan y cyhoedd a'r gynulleidfa ehangach. Rhowch sylw i sgyrsiau am werthoedd, credoau, a disgwyliadau sy'n gysylltiedig â'ch diwydiant neu frand.
Adborth gan weithwyr - Creu arolygon neu holiaduron sy'n gofyn i randdeiliaid mewnol, megis gweithwyr a phartneriaid, roi eu mewnbwn ar yr hyn y maent yn ei weld fel gwerthoedd craidd y brand.
Gweithdai ymgysylltu â gweithwyr - Enyn diddordeb gweithwyr i ddarparu eu mewnwelediadau trwy weithgareddau fel gweithdai neu flychau awgrymiadau anhysbys. Gofynnwch i weithwyr rannu eu persbectif gonest ar yr hyn y maen nhw'n meddwl y dylai gwerthoedd y brand fod.
3. Ystyried Syniadau Gyda'r Tîm
Ar ôl i chi gasglu mewnwelediadau gwerthfawr gan randdeiliaid allweddol, mae'n syniad da dod â'r tîm ynghyd a threfnu sesiwn drafod syniadau (brainstorming) gydag aelodau allweddol o'r tîm. Nod y sesiwn hon fyddai cynhyrchu rhestr o werthoedd brand posibl trwy ystyried geiriau, ymadroddion, neu gysyniadau sy'n cynrychioli eich brand. Gallai'r math o gwestiynau y gallech fod yn eu gofyn gynnwys 'Beth rydyn ni'n ei brisio fwyaf fel cwmni?' neu 'Beth mae ein brand yn sefyll drosto?'. Yna gweithiwch gyda'ch gilydd i gulhau'r rhestr hon nes bod gennych tua 3-5 o brif werthoedd brand.
Cofiwch wneud eich gwerthoedd yn gofiadwy, yn ystyrlon ac wrth gwrs, yn unigryw i'ch brand.
4. Edrych ar Werthoedd Brandiau Rydych yn eu Caru i gael Ysbrydoliaeth
Mae hefyd yn werth edrych ar werthoedd y brandiau rydych chi'n eu caru ac sy'n eich ysbrydoli i gael rhai syniadau. Gwnewch restr o frandiau rydych chi'n eu caru a nodwch y rhinweddau gwahanol sy'n eu gwneud nhw'n unigryw ac yn arbennig. Yna nodwch y themâu a'r rhinweddau cyson rydych chi'n eu canfod a'u defnyddio fel canllaw ar gyfer datblygu eich gwerthoedd craidd eich hun.
Enghreifftiau o Werthoedd Brand
Mae American Express yn enghraifft wych o sefydliad mawr sydd â gwerthoedd craidd cryf. Trwy ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid di-ffael yn gyson, mae'r busnes yn aros yn driw i'w genhadaeth brand: “Darparu profiad cwsmeriaid gorau'r byd bob dydd”. Dyma rai o'i werthoedd brand:
Rydym yn cefnogi ein cwsmeriaid
Rydym yn cefnogi ein cymunedau
Rydym yn gwneud yr hyn sy'n iawn
Rydym yn parchu pobl
Rydym yn croesawu amrywiaeth
Mae Patagonia yn gwmni enfawr arall sy'n adnabyddus am ei genhadaeth gref: “Mae ein busnes yn bodoli i achub ein cartref, y blaned ddaear .” Ei werthoedd brand yw:
Adeiladu'r cynnyrch gorau
Peidio ag achosi niwed diangen
Defnyddio busnes i warchod natur
Heb gael ein rhwymo gan gonfensiwn
Pwysigrwydd Gwerthoedd Brand
Mae cael set gref o werthoedd craidd brand yn helpu busnes mewn sawl ffordd - mae'n helpu i adeiladu teyrngarwch cwsmeriaid ac wrth gwrs i ddenu'r dalent orau bosibl. Gadewch i ni edrych yn fanylach ar y buddion hyn:
Teyrngarwch Cwsmeriaid
Y cyfrinair i lwyddiant busnes hirdymor yw cael cwsmeriaid ffyddlon sy'n dychwelyd. A oeddech chi'n gwybod bod 'cwsmeriaid presennol 50% yn fwy tebygol o roi cynnig ar gynhyrchion newydd ac yn gwario 31% mwy, ar gyfartaledd, o'u cymharu â chwsmeriaid newydd'? Y dyddiau hyn, mae ymddiriedaeth defnyddwyr yn is nag erioed, a dyna pam y bydd sefydlu gwerthoedd craidd brand yn glir a chyflawni'r gwerthoedd hyn yn gyson yn eich helpu i gynnal dilysrwydd eich brand ac adeiladu cysylltiad cryf gyda chwsmeriaid, sydd yn ei dro yn cynyddu teyrngarwch a chadw cwsmeriaid.
Pan fydd cwsmeriaid yn teimlo bod ganddynt gysylltiad â'ch gwerthoedd, maent yn llawer mwy tebygol o ddod yn lladmeryddion i'r brand, gan ledaenu argymhellion cadarnhaol ar lafar a sbarduno twf organig.
Denu a Chadw'r Dalent Gywir
Yn union fel y mae cwsmeriaid yn ei wneud, mae gweithwyr eisiau i'w busnes fod â gwerthoedd craidd, hefyd. Gall brandiau sydd â gwerthoedd clir a chryf ddenu talent bosibl yn hawdd y mae eu gwerthoedd personol yn cyd-fynd â gwerthoedd craidd y brand. Ar ben hynny, mae astudiaethau diweddar yn dangos bod gweithio i fusnes sydd â gwerthoedd tebyg i'w gwerthoedd eu hunain yn cael effaith sylweddol ar gyfraddau ymgysylltu a chadw gweithwyr.
Mantais Gystadleuol / Gwahaniaethu
Mewn marchnad mor orlawn, mae'n hanfodol bod gan eich brand ei hunaniaeth unigryw ei hun. Dyma harddwch cael set gref o werthoedd craidd brand gan eu bod yn gwahaniaethu eich brand oddi wrth gystadleuwyr trwy ddarlunio dros beth mae eich busnes yn sefyll a'ch egwyddorion. Gall gwerthoedd brand cryf helpu eich busnes i ddarganfod ei gilfach ei hun a denu cwsmeriaid o'r un anian sy'n cyd-fynd â'ch credoau.
Ni yw Tramshed Tech: ecosystem a gartref i dros 50 o gwmnïau sy'n amrywio o fentrau cychwynnol cyn-refeniw i fusnesau sy'n graddio gyda dros 600 o aelodau cofrestredig o'r cymunedau digidol, creadigol a thechnoleg. Rydym wedi ein lleoli ar hyn o bryd yng Ngrangetown, Caerdydd Canolog ac i Gasnewydd, ac yn fuan yn ymestyn i safleoedd eraill ledled De Cymru i'r Barri ac Abertawe.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni yn unrhyw un o'n lleoliadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Yn ysgrifenedig gan Kate Jones ar gyfer Tramshed Tech.