>

Sut i Wella Ffocws a Sylw Wrth Weithio

Sut i Wella Ffocws a Sylw Wrth Weithio

Cipolwg ar sut y gallwch wella canolbwyntio a sylw wrth weithio.

Pan fydd gennych chi swm llethol o waith i’w wneud yn ystod eich wythnos, gall pwysigrwydd canolbwyntio o ddydd i ddydd deimlo’n fwy gwasgedig nag erioed, p’un a ydych chi’n gyflogai neu’n gyflogwr.

Wedi dweud hynny, mae’n naturiol i’ch ffocws hercian gydol y dydd, yn enwedig os nad ydych chi’n cymryd y camau priodol i wella’ch ffocws a’ch sylw. 

Mewn gwirionedd, mae gan yr ymennydd cyffredin ‘rychwant sylw cyffredin o tua 40 munud’, sy’n golygu p’un a ydych yn meddwl eich bod yn canolbwyntio ar dasg ai peidio, mae’n debygol nad yw’ch meddwl wedi ymgysylltu’n llawn.

Felly, sut ydych chi’n gwella ffocws a sylw wrth weithio?

I wella’ch ffocws a’ch sylw wrth weithio, ceisiwch wneud y canlynol:

  1. Ymgorffori seibiannau rheolaidd yn eich amserlen waith

  2. Defnyddio gofod pwrpasol i weithio

  3. Blaenoriaethu cwsg

  4. Cyfyngu ar faint o amldasgio rydych chi’n ei wneud 

1. Ymgorffori Seibiannau Rheolaidd yn Eich Amserlen Waith

Gymaint ag yr hoffem gwblhau ein holl dasgau ar gyfer y dydd mewn un bloc mawr, yn enwedig gyda’r pwysau i ‘fod yn gynhyrchiol bob amser’, nid yw hyn o fudd i wella ffocws a sylw.

Gall cymryd egwyl helpu. Mewn gwirionedd, mae astudiaethau wedi dangos y gallai ‘cerdded o gwmpas am bum munud bob awr yn ystod y diwrnod gwaith godi eich tymer a brwydro yn erbyn syrthni heb leihau ffocws a sylw’.

Nid yw’n gynaliadwy gweithio drwy’r dydd bob dydd. Er y gallai swnio’n wrthgynhyrchiol, gall ymgorffori seibiannau rheolaidd yn eich amserlen waith felly eich helpu i wella’ch ffocws a’ch sylw.

Wedi dweud hynny, p’un a yw ond i sefyll i fyny i gael diod neu i symud eich corff, ceisiwch gymryd mwy o seibiannau gydol eich diwrnod a byddwch yn dechrau sylwi ar wahaniaeth. 

 

2. Defnyddio Gofod Pwrpasol i Weithio

Mae defnyddio gofod pwrpasol i weithio yn ffordd wych o wella ffocws a sylw wrth weithio. Er enghraifft, os ydych chi fel arfer yn gweithio gartref, gall mynd allan o’r tŷ a defnyddio gofod gweithio ar y cyd fel eich swyddfa helpu’n sylweddol.

Byddai’r gwahaniaeth y gall cael eich amgylchynu gan bobl o’r un anian sy’n gweithio i gyd ei wneud i wella’ch ffocws a’ch sylw, yn ogystal â’ch cynhyrchiant, yn eich synnu.

Mewn gwirionedd, mae astudiaethau wedi dangos bod 68% o bobl yn honni bod ganddynt ‘well ffocws’ wrth gydweithio, gydag astudiaeth arall yn honni bod 89% o aelodau yn hapusach yn defnyddio gofod gweithio ar y cyd.

Mae Tramshed Tech yn cynnig amrywiol aelodaethau gyda mynediad i’n gofodau gweithio ar y cyd ledled Cymru, lle gallwch weithio ochr yn ochr ac ymgysylltu ag amrywiol bobl a busnesau. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwella’ch ffocws gyda gofod gweithio ar y cyd, cysylltwch â ni heddiw.

 

3. Blaenoriaethu Cwsg 

Er ei bod yn haws dweud na gwneud pan fyddwch chi’n byw bywyd prysur, os ydych chi’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio gydol y dydd, gall blaenoriaethu gwella’ch ffocws a’ch sylw yn sylweddol. 

A dweud y gwir, mae angen rhwng 7 a 9 awr o gwsg ar oedolion bob nos i gynnal ffordd iach o fyw ac i sicrhau bod eich sgiliau yn aros yn finiog.

Mae sawl ffordd o flaenoriaethu eich cwsg, p’un a yw hynny’n golygu diffodd eich ffôn o leiaf ‘30 munud cyn mynd i’r gwely’ neu sicrhau eich bod yn y gwely ar amser rhesymol i hyrwyddo patrwm cysgu da.

Os nad ydych chi’n cael digon o gwsg yn ystod y nos, neu os nad yw ansawdd eich cwsg yn ddigon da, gall hyn gael effaith negyddol ar eich ffocws.

 

4. Cyfyngu ar Faint o Amldasgio Rydych Chi’n ei Wneud

Gallwch hefyd wella’ch ffocws a’ch sylw wrth weithio drwy gyfyngu ar faint o amldasgio rydych chi’n ei wneud.

Er y byddwch efallai’n credu y gallwch gyflawni llawer mwy mewn ychydig o amser os ydych yn amldasgio, mae astudiaethau’n dangos y gall amldasgio gael effaith negyddol ar eich ffocws.

Mewn gwirionedd, mae amldasgio yn lleihau cynhyrchiant o 40%, gydag astudiaethau’n dangos bod amldasgio yn ‘lleihau effeithlonrwydd a pherfformiad meddyliol’ drwy ‘ddifetha cynhyrchiant, achosi camgymeriadau, ac atal meddwl creadigol’.

Gall gael effaith negyddol ar eich iechyd hefyd, gan eich rhwystr rhag cyflawni’r dasg dan sylw ac effeithio ar eich iechyd hirdymor mewn mwy nag un ffordd.

Wedi dweud hynny, dylech gynllunio eich dyddiau yn unol â hynny i gyfyngu ar faint o amldasgio rydych yn ei wneud nid yn unig i wella eich ffocws a’ch sylw, ond hefyd i ofalu am eich ymennydd a’ch iechyd.

Gobeithiwn fod yr erthygl hon wedi rhoi ychydig o gynghorion defnyddiol i chi ar sut i wella’ch ffocws a’ch sylw wrth weithio.

 

Ni yw Tramshed Tech: ecosystem cychwyn busnes sy’n gartref i dros 50 o gwmnïau sy’n amrywio o fentrau cychwynnol cyn-refeniw i fusnesau sy’n graddfa gyda thros 600 o aelodau cofrestredig o’r cymunedau digidol, creadigol a thechnoleg. Ar hyn o bryd rydym wedi ein lleoli yn Grangetown, Caerdydd Canolog a Chasnewydd, ac yn fuan byddwn yn ymestyn i safleoedd eraill ledled De Cymru i’r Barri ac Abertawe. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni yn unrhyw un o’n lleoliadau, mae croeso i chi gysylltu â ni. 

Ysgrifennwyd gan Jemima Thomas ar gyfer Tramshed Tech.