
AI Cymru | Cyfarfod Cloud Native
Y mis hwn mae gennym sgwrs gan Salman "Soulman" Iqbal ar redeg Dysgu Peirianyddol (ML) ar Kubernetes (K8s) - a hefyd pryd na ddylech chi!
Teitl: Machine Learning on Kubernetes (Dysgu Peirianyddol ar Kubernetes)
Lfel: Dechreuwr
Crynodeb
Er mwyn rhedeg modelau Dysgu Peirianyddol (ML) ar raddfa fawr, mae angen tri pheth: cod, y fframwaith ML o'ch dewis a llwyfan i redeg eich cod arno. Mae nifer o fframweithiau ML yn bodoli fel TensorFlow, PyTorch, MXNet, Keras ac ati. O ran llwyfannau, mae llawer o'r rheini'n bodoli hefyd. Mae Kubernetes yn un llwyfan o'r fath sy'n rhedeg llwythi gwaith mewn cynhwysyddion. Mae Kubernetes yn darparu nodweddion sy'n datrys rhai o'r heriau sy'n wynebu gwyddonwyr data.
Bydd y sgwrs hon yn trafod sut mae'n helpu gyda rheoli seilwaith, auto-raddio, adferiad awtomatig rhag methiant, defnyddio awtomatig, aml-ddaliadaeth a throsglwyddo GPU. Bydd y sgwrs hon hefyd yn dangos sut i redeg rhai o'r Fframweithiau ML ar Kubernetes fel Scikit-learn, PyTorch, MXNet a TensorFlow. Bydd y sgwrs hefyd yn trafod pryd na ddylid defnyddio Kubernetes i redeg eich llwythi gwaith ML.
Ynglŷn â'r siaradwr: Salman Iqbal
Mae Salman yn gweithio fel Peiriannydd MLOps yn Appvia ac yn Hyfforddwr Kuberenetes yn Learnk8s. Mae wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau wrth sefydlu llwyfannau Dysgu Peirianyddol i dimau weithredu ar raddfa fawr. Mae hefyd yn Weinyddwr Kubernetes Ardystiedig ac yn eiriolwr cryf dros dechnolegau Cloud Native.
Cyd-sefydlodd Cloud Native Wales, menter i ddod â chymuned ynghyd sy'n rhannu syniadau ar sut i ddefnyddio technolegau cwmwl brodorol yn effeithiol. Gallwch hefyd ddod o hyd iddo ar YouTube fel Soulman Iqbal lle mae'n symleiddio ac yn egluro cysyniadau cwmwl brodorol.
