
Clwb Brecwast
Beth yw Breakfast Club?
Bob mis, rydym yn gwahodd ein cymuned i ymuno â ni am frecwast rhwng 9.30 a 10:00yb ar draws ein holl safleoedd, Grangetown, OCS, Goodsheds a Griffin Place.
Ar gyfer pwy mae Breakfast Club?
Mae Breakfast Club yn Tramshed Tech yn ddigwyddiad i aelodau yn unig. Does dim angen archebu lle a dim pwysau o gwbl i rwydweithio. Cyfle yw hwn yn syml i chi alw heibio, cael tamaid i frecwast a sgwrsio ag wynebau newydd a chyfarwydd.
