
Dod â Dy Hunan Cyfan - Crefydd, Rhianta a Llywodraethiant
Beth fydd y digwyddiad hwn yn ei gwmpasu?
Byddwn yn clywed gan grŵp o ieuenctid Mwslimaidd sy’n dilyn cwrs Arweinyddiaeth a Rheolaeth gyda Chyngor Mwslimaidd Cymru ac iLead i gael gwell dealltwriaeth o’r gwerthoedd sydd ganddynt wrth chwilio am waith, gwersi arweinyddiaeth a beth mae’r Nadolig yn ei olygu iddynt.
Hefyd, byddwn yn clywed gan Reolwr Hŷn yn y GIG sy’n brwydro i daro’r cydbwysedd rhwng bod yn fam dda ac yn fos da. Bydd y digwyddiad yn cloi gyda rhwydweithio a phitsa.
Agenda:
6pm - Astudiaeth achos cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gan Reolwr Gyfarwyddwr Yolk Recruitment, Pavan Arora.
6.15pm - Clywed gan yr ieuenctid Mwslimaidd am yr hyn sy’n bwysig iddynt wrth chwilio am waith, gwersi arweinyddiaeth a beth mae’r Nadolig yn ei olygu iddynt
6.30pm - Clywed gan Uwch Swyddog Gweithredol yn y GIG - y frwydr o gydbwyso bod yn fam dda ac yn fos da
6.45- 7.30pm - Rhwydweithio a phitsa.
Ar gyfer pwy mae hwn?
Unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eu gweithlu a chysylltu ag arweinwyr a rheolwyr y dyfodol.
Am ragor o wybodaeth:
https://sites.google.com/site/ileadwales/
https://www.yolkrecruitment.com/consultants/pavan-arora?source=google.com
