
Dathlwch Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda Chwarae Teg a Tramshed Tech
Mae Chwarae Teg, Tramshed Tech a Barclays Eagle Labs yn eich gwahodd i ddathlu gyda ni ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022 a #BreakTheBias ar yr 8fed o Fawrth 2022. Bydd yr hwyrnos yn cynnwys cyflwyniad sy'n procio'r meddwl gan Brif Weithredwr Chwarae Teg, Cerys Furlong, cwis cydraddoldeb rhywiol difyr, a'r cyfle i rwydweithio ag eraill wrth i ni ddathlu menywod ysbrydoledig ym myd busnes a thechnoleg. Dewch i rannu bwyd blasus (darparwyd gan The Tidy Kitchen) a choctels (opsiwn heb alcohol ar gael) wrth i ni godi gwydraid i'r menywod ysbrydoledig ym myd technoleg a busnes.
Cofrestrwch os hoffech fynychu'r digwyddiad.
Strwythur yr Hwyrnos
5:30pm: Cyrraedd a Diod Groeso
6:00pm: Cyflwyniad gan Brif Weithredwr Chwarae Teg - Cerys Furlong. (Bydd Cerys yn siarad am ganlyniadau ein Hadroddiad Sefyllfa'r Genedl mwyaf diweddar wrth i ni fesur cynnydd y flwyddyn ddiwethaf tuag at ddarparu Cymru sy'n gydradd o ran rhywedd, Hanes Anghydraddoldeb Rhywiol ac Ffeministiaeth a Mudiadau Menywod)
6:30pm: Bwyd yn Cael ei Weini a Chwis Byr i Brofi Eich Gwybodaeth ar Gydraddoldeb Rhywiol
7:00 - 8:00pm: Rhwydweithio a Dathlu
Siaradwr
Ymunodd Cerys Furlong â Chwarae Teg fel Prif Weithredwr ym mis Chwefror 2017 o'r Sefydliad Dysgu a Gwaith lle bu'n Gyfarwyddwr dros Gymru. Mae gan Cerys dros ddeng mlynedd o brofiad yn y sectorau addysg a sgiliau ac mae'n Llywodraethwr ar ACT Training ac Ysgol Uwchradd Fitzalan. Bu Cerys yn Gynghorydd Sir yng Nghaerdydd cyn hynny am chwe blynedd, ac mae ganddi brofiad o weithio i nifer o ACau ac ASau. Mae Cerys yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Canolfan Gelfyddydau Chapter. Y tu allan i'r gwaith, gyda'i phartneriaid busnes, mae Cerys wedi sefydlu nifer o fusnesau llwyddiannus ac mae'n rhedeg grŵp bach o dafarndai a bwytai yng Nghaerdydd.
