>

Gweithdy Codebar Caerdydd

Gweithdy Codebar Caerdydd

Cynhyrchwyr

Tramshed Tech

i

Da Coffi

Lletywyd Gan

Tramshed Tech

Beth fydd y gweithdy yn ei gynnwys? 

 

Ar ôl llwyddiant y gweithdy cyntaf yng Nghaerdydd, mae codebar yn gyffrous i gyhoeddi eu bod yn cynnal ail weithdy gyda ni yn Da Coffi, Un Sgwâr Canolog. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu codio, neu os ydych chi'n beiriannydd meddalwedd sy'n awyddus i rannu eich gwybodaeth ag eraill, ymunwch â ni am liw nos o godio. 

 

Beth fydd y mynychwyr yn ei gael o'r digwyddiad? 

 

Bydd myfyrwyr yn cael eu paru â hyfforddwr ar gyfer dysgu ymarferol a bydd hyfforddwyr yn cael y cyfle i fentora myfyrwyr. 

 

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn? 

 

Mae croeso i unrhyw un, o grwpiau lleiafrifol mewn technoleg sydd â diddordeb mewn dysgu datblygu meddalwedd, a pheirianwyr meddalwedd sydd â diddordeb mewn hyfforddi. 

 

Ar gyfer myfyrwyr, gweler gwefan Codebar am y meini prawf cymhwystra a chofrestrwch ar wefan Codebar fel myfyriwr. 

 

Ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn hyfforddi - cofrestrwch fel hyfforddwr ar wefan Codebar 

 

Bywgraffiad y Gwesteiwr 

 

Nod Codebar yw galluogi aelodau o grwpiau lleiafrifol i ddysgu rhaglennu mewn amgylchechedd diogel a chydweithredol ac ehangu eu cyfleoedd gyrfa. Fel rhan o'u hymrwymiad i feithrin cymuned dechnoleg amrywiol, mae codebar yn cynnig gweithdai rhaglennu am ddim i grwpiau lleiafrifol mewn technoleg. Maent yn chwilio am fyfyrwyr sy'n awyddus i ddysgu codio a hyfforddwyr i'w cefnogi. Cynhelir gweithdai unwaith y mis, ar yr ail ddydd Mawrth o'r mis. 

i

Da Coffi

Lletywyd Gan

Tramshed Tech