
Clwstwr Creadigol: Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Beth fydd y digwyddiad yn ei gynnwys?
Mae’r Rhaglen Clwstwr Creadigol yn cynnal digwyddiad i ddod â’r sector creadigol at ei gilydd ym Mro Morgannwg, gan gynnig cyfle gwerthfawr i weithwyr proffesiynol gymdeithasu a rhwydweithio.
Ffocws y digwyddiad fydd hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y diwydiannau creadigol, gan bwysleisio meithrin amgylchedd cynhwysol i bawb.
Agenda
Panel:
Sion Jones, Cynhyrchydd Gweithredol yn Whisper Cymru
Yn siarad am y daith recriwtio ar gyfer Canolfan Ddarlledu Cymru
Jay Adlam, Artist llawrydd yn hyfforddi gydag Academi Aardman, BottleYard Studios a'r BFI.
Yn trafod y sector Creadigol a chynrychiolaeth LHDTCRhA+
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn?
Mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol a selogion yn y sector creadigol, sy'n angerddol dros feithrin cynhwysiant ac amrywiaeth yn eu gweithleoedd. Yn ogystal, bydd talent newydd sydd â diddordeb mewn ymuno â'r sector creadigol yn elwa ar y cyfle i ddysgu, rhwydweithio, ac ymgysylltu ag arbenigwyr ar bynciau allweddol fel hygyrchedd a chynrychiolaeth LHDTCRhA+.
Bywgraffiadau y Siaradwyr
Mae Canolfan Ddarlledu Cymru yn ddatblygiad diweddaraf gan Whisper yn yr ardal, sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cynhyrchiant Cymreig bob blwyddyn er pan sefydlwyd Whisper Cymru yn 2019. Mae'n etifeddiaeth o ddarllediadau Channel 4 o Gemau Paralympaidd Paris 2024 ac mae ar fin dod â mwy o gynhyrchiadau i Gaerdydd a chyfleoedd newydd o fewn y diwydiant.
