Pobl yn edrych ar liniadur chyda pherson arall yn darllen.

>

Digwyddiad Lansio’r Academi Sylfaenwyr

Digwyddiad Lansio’r Academi Sylfaenwyr

Cynhyrchwyr

Tramshed Tech

i

Grangetown

Lletywyd Gan

Tramshed Tech

Beth fydd y digwyddiad yn rhoi sylw iddo?

 

Wedi meddwl erioed sut beth yw bod yn sylfaenydd technoleg yn llygad y cyhoedd? Y digwyddiad hwn yw eich cyfle i glywed yn uniongyrchol gan rywun sydd wedi bod ar y daith ymgychwyn - o’r syniad i’r lansiad, trwy heriau, cerrig milltir, a’r troeon annisgwyl ar hyd y ffordd i ymbaratoi i werthu’r busnes yn ddiweddar.

 

Erbyn diwedd y digwyddiad, bydd gennych ddealltwriaeth glir o raglen yr Academi Sylfaenwyr (Founder Academy), gan gynnwys yr hyn y mae'n ei gynnig. Os ydych chi'n barod i ddechrau, byddwch hefyd yn cael y cyfle i gofrestru ar gyfer y rhaglen yn y fan a’r lle!

 

Agenda

 

18:00 – 18:15 = Cyrraedd

18:15 – 18:30 = Sylwadau Agoriadol – Zein Zaher, Arweinydd Rhaglen

18:30 – 18:50 = Sgwrs Godre'r Tân – Jack J Williams – Ymunwch â ni am sgwrs godre'r tân gyda Jack J Williams, Sylfaenydd iTero Gaming a chyn-fyfyriwr yr Academi Ymgychwyn (Startup Academy), wrth iddo rannu sut y llywiwyd camau cynnar ei fusnes ymgychwyn – gan ddilysu ei syniad, adeiladu ei gynnyrch cyntaf, sicrhau ei gwsmeriaid cyntaf, ac yn y pen draw gwerthu'r busnes! Cewch hefyd gwrdd â'r tîm, rhwydweithio, a hyd yn oed wneud cais yn y fan a’r lle!

18:50 – 19:00 = Sylwadau Cloi

19:00 – 20:30 = Rhwydweithio

 

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?

 

Darpar sylfaenwyr technoleg – Os oes gennych chi syniad am fusnes ymgychwyn technoleg ond nad ydych chi'n siŵr ble i ddechrau, dyma'ch cyfle i ddysgu gan rywun sydd wedi bod drwyddi i gyd ac i ddysgu am fentrau cymorth arloesi presennol.

 

Sylfaenwyr ar gamau cynnar – Os ydych chi eisoes wedi lansio ond yn dal i lywio heriau, cewch fewnwelediadau ar sut i oresgyn rhwystrau a thyfu eich busnes.

 

Unrhyw un sy'n chwilfrydig am y daith ymgychwyn – P'un a ydych chi'n ystyried entrepreneuriaeth, yn gweithio yn yr ecosystem dechnoleg, neu ddim ond eisiau deall beth sydd ei angen i adeiladu busnes ymgychwyn, bydd y digwyddiad hwn yn rhoi mewnwelediadau byd go iawn ac, gobeithio, yn eich ysbrydoli i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.

 

Darpar gyfranogwyr yr Academi Sylfaenwyr – Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'n rhaglen Academi Sylfaenwyr (Founder Academy), hwn yw'r cyfle perffaith i ddysgu mwy amdanynt a gweld ai hwn yw'r dewis iawn i chi.

 

Os ydych chi'n awyddus i adeiladu, tyfu, neu ddeall byd busnesau ymgychwyn technoleg, mae'r digwyddiad hwn i chi!

 

Cyflwynir y rhaglen hon gan Tramshed Tech a chefnogir gan Raglen Bartneriaeth Ecosystem Eagle Labs Barclays, a ariennir gan Lywodraeth y DU.

i

Grangetown

Lletywyd Gan

Tramshed Tech