
Strategaethau Marchnata Allweddol gyda Hello Starling
Ymunwch â Hello Starling ar gyfer digwyddiad marchnata a rhwydweithio diwedd blwyddyn yn cynnwys James Robinson, Rheolwr Gyfarwyddwr yn Hello Starling, a Gareth Morgan, Prif Weithredwr a Sefydlydd Liberty Marketing.
Bydd y sesiwn yn archwilio strategaethau marchnata allweddol i'w hystyried ar gyfer 2026 mewn byd lle mae cyflymder newid ym maes marchnata yn gyflymach nag erioed. Gallwch ddisgwyl noson o gyflwyniadau craff, trafodaethau agored, a rhwydweithio gyda chyd-farchnatwyr dros fwyd a diod.
Agenda
Cyflwyniad un: Sut mae AI yn Newid SEO a PR
Gareth Morgan, Sefydlydd a Phrif Weithredwr, Liberty Marketing
Bydd Gareth yn torri trwy'r gormodiaith am AI ac yn egluro sut mae modelau iaith mawr (LLMs) yn trawsnewid ymddygiad chwilio. Darganfyddwch sut mae offer fel ChatGPT yn penderfynu pa ganlyniadau i'w dangos, sut mae SEO yn datblygu y tu hwnt i Google, a pham mae PR Digidol yn bwysicach nag erioed ar gyfer gwelededd brand.
Cyflwyniad Dau: Cyfryngau Pennaf – Pam y dylai fod yn bwysig i'ch Strategaeth
James Robinson, Rheolwr Gyfarwyddwr, Hello Starling
Bydd James yn egluro sut mae cyfryngau pennaf yn newid y ddeinameg fasnachol rwng asiantaethau, brandiau, a pherchnogion cyfryngau. Nid yw'n brif ffrwd yng Nghymru eto—ond mae'n dod—ac mae angen i farchnatwyr ddeall y risgiau, y cyfleoedd, ac i ofyn cwestiynau strategaethol nawr.
Holi ac Ateb a Rhwydweithio
Bydd y ddau gyflwyniad yn agor i'r llawr ar gyfer cwestiynau, ac yna rhwydweithio, diodydd, a chanapés.
Ar gyfer pwy mae‘r digwyddiad?
Mae'r digwyddiad hwn yn berffaith ar gyfer marchnatwyr, perchnogion busnes, a gweithwyr cyfathrebu proffesiynol sy'n dymuno aros ar y blaen i dueddiadau, deall sut mae AI a modelau cyfryngau yn ail-lunio marchnata, a chysylltu â chydweithwyr yn y diwydiant cyn i'r flwyddyn ddod i ben.
