
Sut gall myfyrwyr a graddedigion gefnogi eich busnes?
Mae yna lawer iawn o gymorth ar gael i fusnesau sy'n cymryd myfyrwyr a graddedigion prifysgol. Os ydych chi'n chwilio am rywun i esbonio'r broses a'r cyfleoedd sydd ar gael - mae'r digwyddiad hwn ar eich cyfer chi!
Beth fydd y digwyddiad yn ei gwmpasu?
Cyflwyniad i Futures Connect ym Mhrifysgol Caerdydd (pwy ydyn nhw a sut y gallant helpu eich busnes).
Pam gweithio gyda myfyrwyr a graddedigion (meddwl am sgiliau, talent, twf a chysylltiadau â'r Brifysgol).
Pa fathau o gyfleoedd profiad gwaith y gallwch eu cynnig i weddu i'ch busnes.
Y broses a'r cymorth sydd ar gael.
Astudiaethau achos a straeon llwyddiant.
Ffyrdd eraill o ymgysylltu â'n myfyrwyr ar y campws.
Y camau nesaf.
Cwestiynau ac Atebion.
Cyfle am sesiynau 1-i-1 yn dilyn y gweithdy.
(Cofrestrwch os hoffech fynychu'r gweithdy)
Beth fydd cyfranogwyr yn ei gael o'r digwyddiad?
Dysgu sut y gall tîm Futures Connect gefnogi unrhyw fusnes wrth ymgysylltu a gweithio gyda myfyrwyr trwy brofiad gwaith.
Gwerthfawrogi manteision cynnig profiad gwaith a sut y gall helpu busnes.
Deall y gwahanol opsiynau profiad gwaith a'r cymorth sydd ar gael trwy'r broses.
Ystyried profiad gwaith fel dull o ddatblygu piblinell dalent gref ac fel ffordd wych o feithrin perthynas â'r Brifysgol.
Gwybod bod Futures Connect yno i helpu drwy'r flwyddyn ac bob amser yn hapus i gael sgwrs.
Ar gyfer pwy mae'r gweithdy hwn?
Pob busnes – beth bynnag fo'u maint neu sector, gallwn gefnogi pawb.
Y siaradwr: Alice Burke, Swyddog Prosiect Futures Connect - Dyfodol Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Mae gan Alice dros bedair blynedd o brofiad o leoli myfyrwyr mewn cyfleoedd profiad gwaith gydag ystod eang o fusnesau ledled De Cymru a thu hwnt. Mae Alice yn cefnogi pob math a maint o fusnesau i ymgysylltu â myfyrwyr Prifysgol Caerdydd trwy nifer o gynlluniau profiad gwaith i weddu i anghenion cyflogwr.
