
Network Ed: Gwersi o Singapôr
Beth fydd y digwyddiad yn ei gwmpasu?
Fe ymwelodd grŵp o arweinwyr o ysgolion ledled Cymru â Singapôr ar ymweliad astudio a drefnwyd gan y Cyngor Prydeinig, yn ystod Haf 2022.
Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle i ddarganfod mwy am ddiben yr ymweliad, gwrando ar eu hargraffiadau ac ystyried sut y gallai ein hysgolion a'n system ehangach ddysgu o'r profiad o bosibl.
Beth fydd y mynychwyr yn ei gael o'r digwyddiad?
Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau byrion, sesiwn holi ac ateb a thrafodaethau bord gron.
Mae'n gyfle i rwydweithio â chydweithwyr, dysgu am system addysg Singapôr a myfyrio ar ein harferion ein hunain yma yng Nghymru, yn enwedig yng nghyd-destun y diwygiadau.
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn?
Mae hwn ar gyfer Athrawon, Cynorthwywyr Cynhaliol Dysgu, Arweinwyr Ysgol, Athrawon dan Hyfforddiant, Cydweithwyr Polisi ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn addysg!
Bywgraffiadau'r Siaradwyr
Byddwn yn rhannu bywgraffiadau yn ystod yr wythnosau nesaf.
