
Realiti Rhithwir mewn Addysg a Meddygaeth
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi Cyfarfod VR Cymru nesaf mewn partneriaeth â Tramshed Tech.
Beth i'w ddisgwyl
Yn y digwyddiad hwn byddwn yn ymolygu â'r hyn y mae prifysgolion yn chwilio amdano mewn gwasanaethau VR a sut mae cwmnïau VR yn cael eu dewis i ddiwallu anghenion sefydliadau o bersbectif addysgol, yn ogystal â phrosesau caffael ar gyfer cwmnïau. Dilynir hyn wedyn gan drafodaeth ar sut mae VR yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion meddygol ac yn helpu hyfforddiant addysgol meddygol ar gyfer meddygon a nyrsys y dyfodol. Byddwn yn clywed am Ysbyty Rhithwir Cymru, llwyfan canolog sy'n annibynnol ar ddyfeisiau i adeiladu a dosbarthu deunyddiau dysgu meddygol ar gyfer yr holl weithwyr meddygol proffesiynol mewn hyfforddiant VR.
Rydym yn croesawu'r 2 westai arbennig
Owen Crawford: Rheolwr Dysgu Digidol ym Mhrifysgol Caerdydd – Beth mae Prifysgolion yn chwilio amdano gyda VR 🔊
Dr Huw Lloyd Williams: Uwch Ddarlithydd Clinigol mewn Meddygaeth Argyfwng ym Mhrifysgol Caerdydd ac ymgynghorydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Ysbyty Rhithwir Cymru a sut mae'n helpu hyfforddiant meddygol. 🔊
Rydym hefyd yn gyffrous iawn i gyhoeddi y bydd y Meta Quest Pro newydd sbon yn y digwyddiad, wedi'i ddarparu'n hael gan Virtus Tech i'r rhai sy'n mynychu roi cynnig arno! 🥽🤯
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn?
Unrhyw un sy'n gweithio neu sydd â diddordeb mewn realiti rhithwir + unrhyw un sy'n awyddus i ddefnyddio headset VR.
