
Myfyrdod VR a Gosod Nodau
Beth fydd y gweithdy yn ei gynnwys?
Gall mis Ionawr fod yn fis anodd a gall Dydd Llun Glas (Blue Monday) fod yn ddiwrnod arbennig o anodd i lawer, a dyna pam roeddem am greu gofod diogel i chi gael ychydig o amser i feddwl. Sesiwn hunan-arweiniedig yw hon, felly p'un a hoffech chi ymgolli mewn myfyrdod VR neu a fyddech chi'n elwa ar gymryd amser i osod nodau ar gyfer 2023 - neu'r ddau - rydym yn barod i'ch helpu.
Gall meddwl am y flwyddyn i ddod fod yn llethol ac fe all myfyrdod VR helpu i gynorthwyo gyda'r arfer hwn trwy brofi teimladau o ryfeddod, ymlacio, ymwybyddiaeth ofalgar a chysylltiad. Os gallwch ddod o hyd i 30 munud i gamu i ffwrdd o'ch desg i fyfyrio a gosod nodau ar gyfer y flwyddyn i ddod, bydd eich hunan yn y dyfodol yn diolch i chi.
Beth fydd y mynychwyr yn ei gael o'r gweithdy?
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd adeiladu arfer ymwybyddiaeth ofalgar yn y byd 'real', mae'r profiad myfyrdod VR hwn yn dileu pob aflonyddwch heb i chi orfod gadael y swyddfa. Gall fod yn gam i adeiladu ymwybyddiaeth ofalgar fel sgil y gallwch ei drosglwyddo i'ch bywyd personol a phroffesiynol.
Gallwch wneud y gweithdy hwn yn un sy'n addas i chi trwy gadw slot amser 30 munud unrhyw bryd yn ystod y dydd trwy'r ddolen archebu. Ar ôl y myfyrdod, rydym yn eich annog i lenwi'r daflen waith a ddarperir i nodi eich dyheadau personol neu broffesiynol ar gyfer y flwyddyn. Yn syml, rhowch y rhain i'r Dderbynfa a bydd ein tîm Cyfathrebu yn cadw'r rhain yn ddiogel ac yn caniatáu i chi adolygu'ch cynnydd gyda sesiynau gwirio chwarterol trwy gydol y flwyddyn.
Ar gyfer pwy mae hwn?
Os oes angen ychydig o amser i feddwl arnoch chi, os ydych chi wastad wedi eisiau rhoi cynnig ar brofiad myfyrio ymgolli neu os ydych chi awydd rhoi cynnig ar y Meta Quest Pro newydd (a ddarparwyd yn hael gan Virtus Tech) yna mae'r sesiwn hunan-arweiniedig hon ar eich cyfer chi!
